Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Ryngwladol
Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021
12:30pm - 13:30pm
Yn bresennol:
Heledd Fychan AS, Cadeirydd
Rhun ap Iorwerth AS (Cyn Gadeirydd)
John Griffiths AS
Delyth Jewell AS
Heledd Roberts – Swyddfa Rhun ap Iorwerth AS
Sian Hollaran – Cydlynydd Rhyngwladol, Colegau Cymru
Rhiannon Hughes – Cyfarwyddwr Gwyliau, Gŵyl Ffilm Ieuenctid Wicked Wales
Claire O’Shea - Pennaeth Partneriaethau, Hub Cymru Affrica
Hayley Richards – Swyddog Eiriolaeth, Oxfam Cymru
David Anderson - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru
Dr Walter Ariel Brooks – Pennaeth Addysg, British Council Cymru
Alison Cummins – Rheolwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol, British Council Cymru
Natasha Nicholls – Pennaeth Celfyddydau, British Council Cymru
Rosa Bickerton – Rheolwr Prosiect, British Council Cymru
Maija Evans – Rheolwr Addysg, British Council Cymru
Rebecca Wignall – Rheolwr Celfyddydau, British Council Cymru
Calum O'Byrne Mulligan – Cynghorydd ar Faterion Gwleidyddol, British Council
Ymddiheuriadau:
Alun Davies AS
Darren Millar AS
Jenny Scott, British Council Cymru
1. Croeso gan y Cyn-gadeirydd a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Estynnwyd croeso i bawb i’r cyfarfod gan gyn-gadeirydd y grŵp, Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth (RI) ei fod am gamu i lawr fel cadeirydd a chafwyd pleidlais i ddewis cadeirydd newydd i’r grŵp ar gyfer y 6ed Senedd.
Enwebwyd Heledd Fychan AS (HF) gan RI, cynhaliwyd pleidlais, a dewiswyd HF fel cadeirydd newydd.
Cytunodd British Council Cymru i barhau i weithredu fel Ysgrifenyddiaeth y Grŵp.
Diolchodd RI i British Council Council am ei waith fel Ysgrifenyddiaeth y Grŵp yn ystod y 5ed Senedd.
Diolchodd HF i RI am ei waith fel Cadeirydd y Grŵp.
Cadarnhawyd mai’r canlynol fyddai aelodau’r grŵp:
Cadeirydd: Heledd Fychan AS
Rhun ap Iorwerth AS
Alun Davies AS
John Griffiths AS
Darren Millar AS
Jenny Scott – Ysgrifenyddiaeth, British Council Cymru
2. Blaen Raglen Waith y Grŵp
Trafodwyd syniadau ar gyfer blaen raglen waith y grŵp a phenderfynwyd bwrw ymlaen gyda’r canlynol:
· Ymholiad i gysylltiadau rhyngwladol Cymru
· Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
· Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd Cymru
· Addysg Ieithoedd Modern yng Nghymru
· Pwyllgor Argyfyngau Trychineb (DEC)
Croesewir awgrymiadau am faterion eraill i’w trafod – dylid danfon y rhain at: team.wales@britishcouncil.org
3. Camau Gweithredu
· HF i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynglyn â chynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri cymorth dyngarol a Brechlyn y Bobl
· HF a British Council Cymru i gwrdd i drafod llunio’r blaen raglen waith
· HF i drafod sut y gall y grŵp ychwanegu gwerth i waith y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Chadeirydd y Pwyllgor hwnnw, Delyth Jewell AS
Bydd dyddiad y cyfarfod nesaf, a gynhelir yn ystod tymor yr Hydref, yn cael ei anfon at aelodau’r grŵp unwaith y bydd y trefniadau wedi’u cadarnhau.